Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2019
Amser:
09.30 -
11.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5511
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Llyr Gruffydd AC Neil Hamilton AC Jenny Rathbone AC Joyce Watson AC |
Tystion: |
Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Simon Jones, Llywodraeth Cymru Jonathan Oates, Llywodraeth Cymru Lucy Corfield, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau.
2.2 Gofynnodd y Cadeirydd i’r Gweinidog ymateb yn ysgrifenedig i gwestiynau craffu na ofynnwyd yn ystod y sesiwn hon oherwydd cyfyngiadau amser.
2.3 Gofynnodd y Cadeirydd am gael rhagor o amser i sesiynau craffu gyda’r Gweinidog yn y dyfodol.
3.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 4, 5, 6 a 7 o’r cyfarfod heddiw.
4.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dull o graffu ar Fil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) a chytunodd arno.
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a chytunodd i’w ystyried ymhellach yn nhymor yr hydref.
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gwrandawiad cyn penodi gyda Chadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn nhymor yr hydref.
7.1 Cafodd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf ar ddigwyddiad y Pwyllgor yn Sioe Frenhinol Cymru.